Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Iau, 3 Hydref 2019
Amser:
08.47 -
12.34
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5760
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Dai Lloyd AC (Cadeirydd) Jayne Bryant AC Angela Burns AC Lynne Neagle AC |
Tystion: |
Mark Polin, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Gary Doherty, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Deborah Carter, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Sue Hill, Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr Rhys Jones, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru Tania Osborne, Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi Gillian Baranski, Arolygiaeth Gofal Cymru |
Staff y Pwyllgor: |
Sarah Beasley (Clerc) Lowri Jones (Dirprwy Glerc) Sarah Hatherley (Ymchwilydd) Philippa Watkins (Ymchwilydd) |
1.1 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
1.2 Cafwyd ymddiheuriadau gan David Rees AC a Helen Mary Jones AC.
2.1 Clywodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.
2.2 Cytunodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr i ddarparu tystiolaeth atodol ynghylch:
· y canran o bobl ifanc sy’n cael eu hasesu ar gyfer triniaeth CAMHS arbenigol o fewn y terfynau amser gofynnol ar gyfer atgyfeiriadau;
· y terfynau amser ar gyfer amseroedd aros am asesiadau niwroddatblygiadol;
· esboniad o’r cyfyngiadau sydd ar waith sy’n rhwystro pobl ifanc sy’n ystyried hunanladdiad neu sy’n hunan-niweidiol rhag cael eu derbyn i’r Uned CAMHS yn Abergele a pha gamau y mae’r Bwrdd Iechyd yn eu cymryd i ymdrin â’r problemau o ran recriwtio i’r uned.
3.1 Cafodd y Pwyllgor dystiolaeth gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Arolygiaeth Carchardai Ei Mawrhydi ac Arolygiaeth Gofal Cymru.
4.1 Derbyniodd y Pwyllgor y Cynnig i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod.
5.1 Cytunodd y Pwyllgor ar yr amserlen ar gyfer y Bil.